Dyma bwyllgor etholedig ac arweinwyr y clwb ar gyfer 2023/24. I'ch helpu adnabod y criw, cliciwch ar eu henwau a gallwch eu cysylltu yn uniongyrchol trwy e-bost.
The club constitution can be viewed here >> BRC constitution
Cadeirydd |
Ers i Charles dderbyn cynnig ei wraig i ddod i un o nosweithiau hyfforddiant Clwb Rhedwyr Bwcle i weld os oedd yn mwynhau rhedeg, dydi o ddim wedi edrych nol. Y noson oer Aeafol hynny yn 2017 oedd dechrau ei fwynhad o redeg. Mae Charles yn wirioneddol caru'r gamp, y clwb a chymuned Bwcle. Ar ol ymuno'r clwb yn 2017/18, 'roedd Charles yn ei weld yn anrhydedd i gymryd yr awenau fel Cadeirydd yn 2023/24, yn dilyn gwasanaerh hir y cadeirydd blaenorol, Rob Mackey. Fel Cadeirydd, mae'n gyfrifol am gefnogi pob agwedd o'r clwb a gwneud yn siwr bod popeth yn cael ei wneud er fudd gorau y clwb. | |
Trysorydd | Ymunodd Sue Glwb Rhedwyr Bwcle yn 1997 ar ol cwblhau "Race for Life" a dyw hi byth 'di edrych nol. Mae hi'n parhau ei rol fel Trysorydd y Clwb, lle mae hi'n gyfrifol am edrych ar ol pob agwedd arianol y clwb. Mae ei rol yn cynnwys pob mater sy'n gysylltiedig gyda incwm a gwariant y clwb, mae hyn hefyd yn cynnwys adroddiadau ariannol a chynghori gweithgareddau tracio ynghylch gwariant. | |
Ysgrifennydd | Bydd gwybodaeth manwl Dave am rasio, cyflymder a phellter yn ddefnyddiol iawn yn ei rol fel ysgrifennydd y clwb, yn ogystal a'i sgiliau trefnu a'i agwedd ewyllysgar. Fel ysgrifennydd, mae Dave hefyd yn gyfrifol am elfennau weinyddol dyddiol y clwb a'r cyswllt rhwng y clwb ac Athletau Cymru i wneud yn siwr ein bod cyfarfod gofynion y corff llywodraethu. | |
Ysgrifennydd Aelodaeth | As our Membership Secretary, Gerard is responsible for all matters relating to memberships. This includes processing new members, submitting and co-ordinating with Welsh Athletics, renewals and club transfers. Membership and Transfer forms can be found on our website, but if you have any queries, please contact Gerard. | |
Arweinydd Datblygu | Mae ein Arweinydd Datblygu wedi bod yn rhedeg am flynyddoedd gyda nifer o lwyddiannau rhedeg arbennig yn ei sgil. Bydd hyn yn amlwg yn ddefnyddiol yn ei rol newydd fydd yn cynnwys rheoli a threfnu hyfforddiant o fewn y clwb. Gyda'i griw o arweinwyr rhedeg, y nod yw i wneud yn siwr bod y fframwaith yn galluogi pob aelod o'r clwb ddatblygu. Mae'r rol hefyd yn cynnwys trefnu, cyfathrebu a diogelu sesiynnau hyfforddiant y clwb. | |
Arweinydd y Cyfryngau a Chyhoeddusrwydd |
Mae Andrew wedi bod gyda'r clwb am tua 5 mlynedd rwan ar ol cyfarfod criw o redwyr cyfeillgar Bwcle tra;n rhedeg ar ben ei hun. Mae ganddo gefnder TG a chafodd ei benodi yn ddiweddar i edrych ar ol gwefan y clwb, a sy'n gyfrifol am ryngweithiadau'r clwb gyda'r cyhoedd drwy weithredu llwyfannau cyfryngau cymdeithasol. | |
Arweinydd Digwyddiadau Cymdeithasol |
Mae sgiliau trefnu manwl Claire yn ei gwneud yn berffaith ar gyfer ei rol fel Pennaeth Digwyddiadau Cymdeithasol. Mae Claire yn gyfrifol am yr holl ddigwyddiadau sydd ddim yn ymwneud a rhedeg fel nosweithiau cymdeithasol y clwb, cyfarfodydd blynyddol a rheoli costau. | |
Male Safeguarding Officer and Men’s Vice Captain |
'Roedd Jez yn aelod iau o Redwyr Bwcle rhai blynyddoedd yn ol, ac mae nawr wedi ail-ymuno fel rhedwr fet, ac wedi bod yn aelod brwd ers 2007. Mae Jez wrth ei fodd yn rhedeg trwy mwd neu rhedeg fyny mynydd neu ddau. Mae hefyd yn mwynhau rhedeg ar y ffyrdd o bryd i'w gilydd ac yn rasio'n aml. Mae Jez wedi gweithio fel gweithiwr cymdeithasol ers dros 20 mlynedd, yn fwy diweddar yn yr adran cyfiawnder ieuenctid. Mae diogelu yn gyfrifoldeb pawb gyda rol y swyddog lles yn cynnwys goruchwilio polisiau, rhannu gwybodaeth ac ymateb i unrhyw bryder a gaiff ei rannu ag ef o ran yr aelodau i sicrhau bod plant, oedolion sy'n agored i niwed ac unrhyw aelod o'r gymuned yn ddiogel. Mae mwy o fanylion am y rol a sut i dderbyn cyngor i'w ddarganfod yn adran lles y wefan. |
|
Swyddog Lles y Merched |
Fe ddechreuodd Nicole redeg gyda chlwb canolfan hamdden yn 2006 tra'n byw yn De Manceinion. O'r decharu, ers iddi lwyddo i ddal i fynd am 5k, sylweddolodd Nicole yn gyflym ei bod hapusach yn rhedeg pellteroedd hirach. 6 mis ar ol ymuno a'i chlwb, rhedodd Nicole ei hanner marathon cyntaf a 18 mis wedyn, cwblhaodd ei marathon cyntaf. Rhwng 2008 a 2015, rhedodd 8 marathon mewn llefydd arbennig yn y byd gan gynnwys Llundain, Berlin ac Efrog Newydd.
Yn 2014, symudodd Nicole i Benarlag ac ymuno a Rhedwyr Bwcle. Erbyn hyn, gyda theulu a 2 o feibion oedran ysgol cynradd, newidiodd ei ffocws oddi arni hi i chwaraeon ei meibion, oedd yn cynnwys karate, hoci, sglefrio ia a thrampolin. Yn ffodus, mae'r teulu i gyd erbyn hyn wedi cymryd rhan yn ParkRun Wepr sydd wedi ysgogi y teulu i gyd i fwynhau rhedeg. Y dyddiau hyn, mae ei rhedeg yn araf ac yn waith caled, haha, ac mae'n mwynhau hybu pobl eraill i redeg. Mae'n well ganddi redeg mynydd ar y bryniau hardd lleol. Cysylltwch Nicole os gwelwch yn dda os ydych a diddordeb ymuno a'r cynllun 'Couch to 5K' ar gyfer rhedwyr newydd. |
|
Capten y Dynion |
Byddwch yn dod o hyd i Cally ar flaen y pac. Gyda'i arddull rhedeg hapus a hamddenol mae Cally yn gwneud iddo edrych yn hawdd. Mae o'n hynod o gymdeithasol ac o hyd yn d'eud be sydd angen ei ddweud sy'n ddefnyddiol iawn yn ei rol fel capten y dynion. Mae'n gyfrifol am gasglu'r dynion at eu gilydd ar gyfer rasus clwb, sgil sydd hefyd yn cael ei gyferio at fel bugeilio cathod!! | |
Capten y Merched |
Sian joined the club about 6 years ago, for company on those dark winter nights, and hasn’t looked back. Helping to fly the flag for the middlies, she promotes inclusivity and loves the welcoming aspect of the club. “I look forward to the training session (not always the intervals!!!) to meet up with everyone, and the races are great fun , especially the coffee afterwards. A very important part of running.
The training has really helped me improve thanks to the expert advice and encouragement from every level. The club championship and spond is a huge help to promote social running. I hope i can help to encourage everyone in the club too.”
|
|
Ladies Vice Captain |
Gwennan can normally be found on race days, especially if it involves muddy fields. She attempts to take race photos, but beware, she tends to chop heads off…or completely miss people altogether. She once won £10 in a running race…which apparently makes her a professional athlete!!
Gwennan is extremely proud to represent Buckley Runners as Vice Captain and hopes Sian as captain will not delegate too many responsibilities.!!
|
|
Cyfarwyddwr Ras |
Phil yw ein Cyfarwyddwr Ras ar gyfer Cynghrair y Ffin. Mae hyn yn golygu ei fod yn gyfrifol am drefnu'r ras a hefyd sicrhau bod popeth yn mynd yn iawn ar y diwrnod. | |
Cynrychiolydd Trawsgwlad Simon Roberts |
Yn aelod Rhedwyr Bwcle ers 2005, mae Simon wedi rhedeg dros 700 o rasus yn y fest glas. Mae'n mwynhau pob math o redeg, o redeg trac i redeg ffordd, rhedeg mynydd i ultra - sydd efallai'r rheswm nad yw'n dda iawn ar run ohonynt!! Mae'n credu'n gryf mai peint o gwrw yw'r adferiad gorau ar ol rhedeg. Mae Simon hefyd yn awdur "Fell Running in Wales" ac yn ceisio ei orau i gasglu holl ganlyniadau'r aelodau. | |
Cynrychiolydd Rhedwyr Mynydd ac Aml-Dir Amanda Boyd |
I Amanda, mae rhedeg yn weithgaredd cymdeithasol - unai tra'n rasio neu jyst cyfarfod ar nosweithiau Mercher neu unrhyw siawns posib. Mae Amanda yn mwynhau pob math o redeg ond mai well ganddi'r llwybrau a'r bryniau ac fe'i gwelir yn aml yn rhedeg o amgylch bryniau Clwyd ar ben ei hun gyda'i chi bach. Dylse bod rhedeg yn hwyl ac yn aml cewch ddod o hyd i Amanda yn chwilio am dafarn lleol ar ol ras er mwyn ymlacio. | |
Cynrychiolydd Cynghrair y Gororau | Yn ogystal a chyfrifoldebau arweinydd datblygu, Eric yw ein cynrychiolydd ar gyfer Cynghrair y Gororau. Mae hyn yn cynnwys bod yn gyswllt ar gyfer holl faterion y gynghrair yn ogystal a mynychu'r cyfarfod blynyddol ar ran Rhedwyr Bwcle, gan sicrhau fod pob rhedwr sydd eisiau cymryd rhan yn deall y drefn. | |
Pencampwriaeth y Clwb |
|
Fel ein swyddog pencampwriaeth y clwb, mae Dave yn gyfrifol am sicrhau fod pencampwriaeth y clwb yn cael ei ddiweddaru gyda rasus 2023-2024 ac yna cyfrifo a diweddaru'r sgorau yn aml.
|
Rhaid i chi fod wedi mewngofnodi i bostio sylw.